Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Iau, 25 Chwefror 2021

Amser: 09.15 - 12.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11111


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Lynne Neagle AS (Cadeirydd)

Dawn Bowden AS

Hefin David AS

Suzy Davies AS

Siân Gwenllian AS

Laura Anne Jones AS

Tystion:

 Luke Sibieta, Cymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Sefydliad Polisi Addysg

Yr Athro Chris Taylor, Athro Addysg a Chyfarwyddwr Academaidd y Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) - Prifysgol Caerdydd

Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Staff y Pwyllgor:

Llinos Madeley (Clerc)

Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc)

Sian Thomas (Ymchwilydd)

Phil Boshier (Ymchwilydd)

Catherine McKeag (Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau. Nododd y Cadeirydd y byddai angen i Suzy Davies AS adael y cyfarfod am 11am.

 

</AI1>

<AI2>

2       COVID-19: addysg statudol

2.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Hefin David AS fod gan ei ferch Anghenion Dysgu Ychwanegol.

2.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Luke Sibieta a’r Athro Chris Taylor ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.

2.3 Cytunodd Luke Sibieta y byddai’n rhoi unrhyw dystiolaeth ystadegol i’r Pwyllgor sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phresenoldeb plant sy'n agored i niwed yn yr ysgol, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol yn ystod y cyfnodau o gyfyngiadau symud, ac a oedd profiadau wedi amrywio ledled Cymru.

 

</AI2>

<AI3>

3       COVID-19: addysg statudol

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Evans a’r Athro Dylan Jones ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.

</AI3>

<AI4>

4       Papurau i’w nodi

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI4>

<AI5>

</AI11>

<AI12>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI12>

<AI13>

6       COVID-19: Trafod y dystiolaeth

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.

</AI13>

<AI14>

7       COVID-19: y diweddaraf ynghylch ymgysylltu â myfyrwyr prifysgol

7.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ganfyddiadau'r grwpiau ffocws rhithwir a gynhaliwyd gyda myfyrwyr. Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r wybodaeth yn cael ei defnyddio i lywio'r sesiynau tystiolaeth gyda chynrychiolwyr o addysg uwch ac addysg bellach. a drefnwyd ar gyfer 11 Mawrth 2021.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>